Rheoli Y Plu

Cyfle Prin i Reoli Tafarn Gymunedol

Mwy na thafarn – partneriaeth gyda phwrpas

  • Tafarn a chegin wedi’u hadnewyddu’n llawn
  • Fflat uwchben wedi’i gynnwys
  • Perchnogaeth gymunedol gyda chefnogaeth leol gref
  • Buddsoddiad o £1.5m yn y safle
  • Model partneriaeth hyblyg

Targed ailagor: Gaeaf 2026

Rydym yn chwilio am weithredwr profiadol sy’n rhannu ein gwerthoedd i helpu siapio dyfodol Tafarn y Plu.

I wybod mwy, darllenwch ein pecyn mynegi diddordeb:

Mynegi Diddordeb (1-2 dudalen)

Anfonwch gais drwy ebost at [email protected]

Dyddiad cau: 30 Mehefin 2026

Yn eich cais Mynegi Diddordeb, bydd angen cynnwys:

  • Gwybodaeth amdanoch chi / eich sefydliad
  • Profiad perthnasol
  • Amlinelliad o’ch cynnig
  • Argaeledd ac amserlen

Nid oes angen cynllun busnes llawn ar hyn o bryd.