Cronfa CGGC
Mi roedd ein gwaith caled a'ch cefnogaeth ardderchog wedi sicrhau ein bod yn llwyddiannus gyda’n cais i Gronfa Datblygu Asedau Cymunedol y CGGC. Cam anferthol i'r ymgyrch!
Roedd ein targed o £80,000 wedi sicrhau £120,000 ychwanegol gan y gronfa, oedd yn ddigon i ni allu brynu'r adeilad a dechrau pethau o ddifri.
Am ragor o wybodaeth am y gronfa ewch i
wefan CGGC.
Rydym dal yn derbyn cyfranddalwyr newydd ac yn annog i'r rhai sydd yn ystyried buddsoddi i fynd amdani mor fuan ac y gallwch.