Cwestiynau cyffredin

Gall Tafarn y Plu cymunedol lwyddo?
Yn sicr! Mae'n dafarn draddodiadol eiconig, dros 200 mlwydd oed gyda chymeriad unigryw a nifer o fanteision dros rhai o dafarndai eraill sydd yn llwyddo.
Mae miloedd o bobl yn ymweld â’r pentref bob blwyddyn yn mynd i amrywiaeth o atyniadau agos megis Amgueddfa Lloyd George, Fferm Gwningod, Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, parc gweithgaredd Dragon Raiders, Llwybr Arfordir Cymru a Hafan Y Môr. Mae hefyd nifer o lefydd aros o fewn pellter cerdded i’r dafarn.
Rydym yn agos iawn i’r brif ffordd rhwng Porthmadog a Pwllheli, ac mae gennym gysylltau trafnidiaeth Gyhoeddus gryf gyda bysiau yn pasio yn aml rhwng 7 y bore a hanner nos yn cysylltu cymunedau Pwllheli, Cricieth, Porthmadog a Blaenau Ffestiniog.
Mae hyn, mewn cymuned gyda phoblogaeth o dros 2000, yn fwy na digon i gefnogi’r busnes.
Mae gan y perchnogion presennol fuddiannau eraill ac yn masnachu'r busnes yn rhan-amser, gyda lefel iach o elw. Mae hyn yn gyfle i ni gynyddu oriau masnachu ac i ehangu’r busnes.
Nid does unrhyw dafarn, siop na chaffi arall yn y pentref bellach. Mae hyn yn gyfle arbennig i’r gymuned fod yn berchen ar fusnes sydd yn darparu'r gwasanaethau yma.

Pam ddylwn i fod yn gyfranddaliwr?
Credwn ei bod hi'n bwysig bod cymaint o aelodau o'r gymuned â phosib yn cymryd rhan yn y fenter hon. Mae cyfranddalwyr newydd yn rhoi cyfalaf i'r gymdeithas i wella a datblygu'r busnes, ac maent hefyd yn gwneud y gymdeithas yn fwy democrataidd. Y mwyaf o aelodau sydd gennym, y mwyaf cymunedol fydd y dafarn. Credwn y bydd hyn yn llwyddiannus a byddwch yn rhan falch ohoni.

Beth sy'n digwydd i'r arian a godir gan gyfranddalwyr?
Caiff yr holl arian a dderbynnir ei gadw yng nghyfrif banc Menter y Plu (gyda NatWest), a bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prynu Tafarn y Plu yn unig.

Faint gallaf fuddsoddi?
£100 yw’r lleiaf gallwch chi ei fuddsoddi a’r uchafswm yw £20,000, mewn lluosrif o £100.

Hoffwn brynu [x] o gyfranddaliadau, ond methu fforddio ei dalu ar hyn o bryd.
Gallwch drefnu drwy eich banc i dalu am y cyfranddaliadau yn fisol am 10 mis.

Os wyf yn buddsoddi, a ydw i'n cymryd unrhyw rwymedigaeth arall?
Na. Mae eich rhwymedigaeth yn gyfyngedig i'ch buddsoddiad.

A oes cyfyngiadau i fod yn aelod?
Mae’n rhaid i aelodau (cyfranddalwyr) fod o leiaf 16 oed, ond gall oedolyn brynu un ar ran plentyn fel anrheg.

A oes gwahaniaeth rhwng aelod a chyfranddaliwr?
Nid oes gwahaniaeth rhwng bod yn gyfranddaliwr ac yn aelod. Mae prynu cyfranddaliadau yn golygu byddech yn aelod.

Pa hawliau pleidleisio fydd gennyf?
Mae gan bob aelod un bleidlais, dim ots faint o gyfranddaliadau maent yn berchen arnynt. Mae hyn i gydymffurfio â rheolau holl Gymdeithasau Er Budd y Gymuned.

A allai fy nghyfranddaliad gynyddu mewn gwerth?
Na. Ni all cyfranddaliadau yn y gymdeithas byth fod yn werth mwy na'u gwerth gwreiddiol. Os bydd y busnes yn gwneud elw, bydd y pwyllgor yn penderfynu a fydd modd talu llog ar eich cyfranddaliad. Mae Cymdeithasau Er Budd y Gymuned (CBS) eraill yn defnyddio’r elw er mwyn rhoi grantiau bychain i grwpiau cymunedol lleol. Bydd Menter y Plu yn gobeithio gwneud yr un fath.
Byddwn hefyd yn buddsoddi yn y busnes gan godi gwerth y buddsoddiad cymunedol ar gyfer y dyfodol.

Gallaf i werthu cyfranddaliadau?
Ni allwch chi werthu cyfranddaliadau.

Sut gallaf gael fy arian yn ôl?
Gobeithiwn y byddwch am ddal eich cyfranddaliadau am flynyddoedd lawer a'u trosglwyddo i anwyliaid. Ond ar ôl isafswm o bum mlynedd, mae yna fecanwaith lle gall y Gymdeithas brynu'ch cyfranddaliadau yn ôl, yn amodol ar ychydig o amodau syml.

Sut mae'r cynnig yn gweithio, a pha sicrwydd sydd gennyf ar gyfer fy muddsoddiad?
Sefydlwyd y cwmni fel Cymdeithas Er Budd y Gymuned. Mae'n gweithredu ar sail 'un aelod, un bleidlais'. Dylid ystyried hyn fel buddsoddiad hirdymor er budd y gymuned. Nid yr un peth â buddsoddiadau a wnaed mewn mentrau 'er elw' lle mae buddsoddwyr yn gobeithio rhannu mewn llwyddiant trwy ddifidendau a gwerthfawrogiad cyfalaf. Er y bydd y cyfranddaliadau yn y gymdeithas yn talu llog, ni all gwerth sylfaenol y cyfranddaliadau gynyddu a gellid ei leihau yn y digwyddiad annhebygol bod rhwymedigaethau'n fwy na'r asedau.

A fydd y gymdeithas yn ddichonol?
Yn seiliedig ar ein hasesiad, ynghyd â thîm proffesiynol, credwn y bydd yr incwm o werthu cwrw a bwyd yn cefnogi'r model busnes y byddwn yn ei gynnig yn gyfforddus ac yn darparu gwarged ar gyfer argyfyngau.

Beth sy'n digwydd os bydd y gymdeithas yn methu?
Os yw'r digwyddiad annhebygol y bydd y gymdeithas yn methu, byddai'r holl asedau'n cael eu gwerthu a byddai enillion y gwerthiant yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu unrhyw ddyled (ee morgais). Wedi hynny, bydd y cyfranddalwyr yn cael eu had-dalu ac y byddai unrhyw warged sy'n weddill yn cael ei roi at ddefnydd cymunedol. Bydd asedau'r gymdeithas yn cynnwys adeiladau Tafarn y Plu a'r tir o'i gwmpas.

Pwy sy'n trefnu hyn? Oes ganddynt ddiddordeb personol yn y dafarn?
Ar hyn o bryd mae'r pwyllgor rheoli'n cynnwys tri chyfarwyddwr gwirfoddol a thri aelod pwyllgor gwirfoddol. Nid oes ganddynt fuddiannau ariannol yn Nhafarn y Plu.

Sut bydd Tafarn y Plu yn cael ei redeg?
Bydd y pwyllgor rheoli, sy'n cael ei dynnu ac yn cael ei ethol gan yr aelodau, yn gweithredu fel bwrdd cyfarwyddwyr, gan wneud penderfyniadau mawr ar ran yr aelodaeth a monitro cynnydd a datblygiad y busnes. Bydd staff, sy'n adrodd i'r pwyllgor rheoli, yn cael eu cyflogi i reoli'r dafarn o ddydd i ddydd. Bydd y pwyllgor rheoli hefyd yn cydlynu gwirfoddolwyr y dafarn ac yn gweithredu fel sianel ar gyfer adborth gan aelodau a chwsmeriaid.

A yw hyn wedi ei wneud rhywle arall yn yr ardal?
Nid yw tafarndai cymunedol yn syniad newydd ar gyfer yr ardal hon ers i Dafarn y Fic, Llithfaen gael ei sefydlu ym 1988, ac mae wedi dathlu 30 mlynedd o fodolaeth yn ddiweddar fel y dafarn gymunedol hynaf yn Ewrop. Mae yna hefyd Pengwern yn Llan Ffestiniog sydd wedi bod yn mynd am 8 mlynedd, ac yna mae Tafarn yr Heliwr yn Nefyn, menter gymunedol newydd.

Os oes gennych unrhyw ymholiad arall e-bostiwch menteryplu@gmail.com, neu darllenwch ein cynllun busnes am ragor o wybodaeth.